CYFLWYNIAD

1.        Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli 22 awdurdod lleol Cymru ac mae awdurdodau’r tri awdurdod tân ac achub, y tri pharc cenedlaethol a’r 4 heddlu yn aelodau cyswllt.

 

2.        Prif ddiben WLGA yw cynrychioli’r awdurdodau lleol yn ôl fframwaith o bolisïau cyfoes sy’n ateb prif flaenoriaethau ei haelodau. At hynny, mae’n cynnig amrywiaeth helaeth o wasanaethau sy’n ychwanegu at fyd llywodraeth leol Cymru a’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu.

 

3.        Mae WLGA yn croesawu’r cyfle i gyfrannu at Ymchwiliad Pwyllgor Cyllid y Cynulliad i Effeithiolrwydd y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru. Gobeithiwn yn fawr y bydd argymhellion a chanlyniadau’r ymchwiliad yma’n cyfrannu at baratoi y rownd newydd o arian strwythurol o Ewrop ar ôl 2013.

 

4.        Rydym wedi ymgynghori â phob awdurdod lleol yng Nghymru wrth baratoi’r ymateb yma. Bydd WLGA yn ymateb i’r cwestiynau yn unol â chylch gorchwyl yr ymchwiliad.

 

Atebion i’r cwestiynau ymgynghori

 

Cwestiwn 1: I ba raddau rydych yn ystyried bod y Rhaglenni Cydgyfeiriant a’r Rhaglenni Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol yng Nghymru ar gyfer y cyfnod rhwng 2007 a 2013 wedi cyflawni – neu yn cyflawni – yr amcanion ar eu cyfer?

 

5.       Mae’r data diweddaraf yn yr adroddiadau yng nghyfarfod y Pwyllgor Cenedlaethol sy’n Monitro’r Rhaglenni Arian Strwythurol Ewrop yn awgrymu bod y ddwy raglen ar y trywydd cywir i gyflawni eu hamcanion o ran ymrwymiad, gwariant a dangosyddion. Felly, mae’n edrych fel bydd y ddwy raglen yn cyflawni eu targedau yn ôl pob tebyg. Mae prosiectau unigol hefyd, yn ôl pob golwg, yn cyflawni eu hamcanion neu ar y trywydd cywir i wneud hynny.

 

6.       Fodd bynnag, nid yw’n eglur ar hyn o bryd beth fydd effaith y rhaglenni hyn o ran cyfrannu at roi hwb economaidd ledled Cymru. O ran rhaglenni Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) yn benodol, mae’n rhy gynnar dweud beth fydd yr effaith yn y pen draw gan fod llai na 18 mis ers cymeradwyo’r rhan fwyaf o’r prosiectau adfywio ffisegol ac isadeiledd strategol. Felly, bydd cael gwir effaith fel creu swyddi yn cymryd peth amser.

 

7.       Mae gormod o bwyslais yn y rhaglenni ar hyn o bryd ar fonitro faint sy’n cael ei wario ar brosiectau o gymharu â chofnodi safon ac effaith yr ymyriadau. Wrth baratoi’r rhaglenni nesaf, bydd angen rhoi llawer mwy o bwyslais ar gofnodi canlyniadau ac effaith prosiectau fel bod camau cynaliadwy yn cael blaenoriaeth. Rydym yn croesawu’r pwyslais yn y cynigion deddfwriaethol arfaethedig ar raglenni’r dyfodol a gyhoeddodd Comisiwn Ewrop ym mis Hydref 2011 ar gyflawni canlyniadau. Gyda lwc, bydd mwy o bwyslais yn cael ei roi ar roi camau cynaliadwy ar waith wrth baratoi’r rhaglenni nesaf yng Nghymru oherwydd bydd yn hwyluso’r gwaith o asesu a yw’r ymyriadau’n gwneud gwahaniaeth go iawn i economi Cymru.

 

8.       Yn ôl pob golwg, ni fydd y rhaglenni’n cyflawni un o brif amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer y rownd presennol o arian Ewrop, sef cyflwyno rhaglenni mewn modd mwy strategol a fyddai’n arwain at ddelifro mwy strategol ar lawr gwlad. Y gofyniad i gaffael i ddelifro prosiectau sy’n bennaf gyfrifol am hyn gan olygu nad oes digon o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei ddelifro. Gan fod cymaint o bwyslais yn cael ei roi ar gaffael i ddelifro prosiectau, ni all WEFO reoli beth sy’n cael ei ddelifro nac yn lle. Felly, nid yw mewn sefyllfa i adnabod na osgoi gweithgareddau a allai fod yn cael eu dyblygu.

 

9.       Ar ben hynny, gan fod cynifer o raglenni cenedlaethol neu traws raglen wedi’u cymeradwyo heb unrhyw syniad sut i’w delifro’n rhanbarthol ac yn lleol, mae cyflwyno dull strategol wedi bod yn amhosibl. Mae hyn hefyd wedi achosi oedi o ran datblygu nifer o brosiectau eraill mae llywodraeth leol yn eu harwain yn ystod dwy flynedd gyntaf y rhaglenni. Mewn sawl achos, bu’n rhaid iddynt aros nes bod y rhaglenni mawr a chenedlaethol yn cael eu cymeradwyo cyn iddyn nhw allu parhau â’u prosiectau eu hunain. Arweiniodd hyn at rwystredigaeth ar lawr gwlad ac mae angen ei osgoi yng nghyfnod cynllunio’r dyfodol. Rhaid bod yn glir cyn gynted â phosibl wrth baratoi rhaglenni’r dyfodol am unrhyw brosiectau mawr ac, yn hollbwysig, sut bydd y rhain yn cael eu delifro’n rhanbarthol ac yn lleol.

 

10.     Mae’r ffaith bod cynigion yn cael eu gwahodd yn agored ac yn barhaus wrth baratoi rhaglenni ar hyn o bryd, yn ogystal â phroses sy’n dibynnu ar gynigion yn unig, hefyd yn rhwystro ymdrechion i ddelifro mewn modd strategol. Felly, bydden ni’n croesawu dull mwy trefnus o gyflwyno prosiectau wrth baratoi rhaglenni’r dyfodol.

 

11.     Oherwydd yr holl ffactorau yma, mae’n anodd dweud yn union pa effaith y mae’r arian yn ei gael ar rai rhannau o’r rhaglenni ac mewn rhai ardaloedd.

 

Cwestiwn 2: A gredwch fod y prosiectau amrywiol sy’n cael eu hariannu drwy gronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru yn rhoi gwerth am arian?

 

12.     Mae’n anodd iawn asesu a yw prosiectau unigol yn rhoi gwerth am arian gan nad oes digon o ddata ar gael. Mae cael gwerth am arian yn ystyriaeth bwysig i bawb sy’n gysylltiedig â’r Cronfeydd Strwythurol gan gynnwys Comisiwn Ewrop, WEFO a phrif noddwyr y prosiectau. Felly, rhaid gwneud yn siŵr bod hyn yn digwydd bob amser.

 

13.     I roi gwerth am arian mewn cysylltiad â Rhaglenni Cronfa Strwythurol Ewrop yng Nghymru, mae angen deall a chydnabod bod gan brosiectau’r sector cyhoeddus rôl bwysicach o ran denu pobl i fuddsoddi arian a chynnal prosiectau oherwydd y diffyg yn y farchnad yn yr ardaloedd hyn, yn arbennig yn yr ardaloedd mwyaf gwledig a’r ardaloedd mwyaf difreintiedig o fewn ardal Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, a’r ffaith nad yw’r sector preifat yn debygol o fuddsoddi yno.

 

14.     I fod mewn gwell sefyllfa i asesu a yw prosiectau’n rhoi gwerth am arian, mae angen i wybodaeth am ganlyniadau’r prosiectau fod ar gael fesul ardal awdurdod lleol. Gan fod y wybodaeth yma yn cael ei gasglu wrth gyflwyno ceisiadau i WEFO, credwn y dylai fod ar gael i allu asesu effaith rhaglenni’n lleol ac yn rhanbarthol ac, yn bwysicaf oll, i dynnu sylw at unrhyw fylchau o ran delifro.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 3: A oes gennych bryderon ynghylch sut y defnyddir y gronfa arian cyfatebol a dargedir? A oes gennych bryderon ynghylch defnyddio gwariant adrannol Llywodraeth Cymru fel arian cyfatebol? Pa effaith y credwch y mae toriadau yn y sector cyhoeddus wedi’i chael (ag y gallant ei chael) ar argaeledd arian cyfatebol y sector cyhoeddus?

 

15.     Ar ddechrau’r cyfnod paratoi rhaglenni, roeddem yn croesawu ac o blaid sefydlu Cronfa Arian Cyfatebol a Dargedir a’r ffaith ei bod wedi galluogi llu o brosiectau adfywio dan arweiniad byd llywodraeth leol i gale ei cymeradwyo. Fodd bynnag, o’r cychwyn cyntaf, yn ogystal ag yn y trafodaethau wrth sefydlu’r gronfa, lleision bryderon am sawl elfen sy’n gysylltiedig â’r gronfa.

 

16.     Ein prif bryder am y gronfa oedd y ffaith iddi gael ei sefydlu fel proses ceisiadau annibynnol gan swyddogion mewn adran wahanol o Lywodraeth Cymru. Roedd meini prawf gwerthuso’r gronfa hefyd yn wahanol i’r rhai ar gyfer y cronfeydd strwythurol gan arwain at ddyblygu a gwaith papur diangen. Rydyn ni hefyd yn bryderus am y ffaith nad yw’r broses yn ddigon clir ac agored gan nad yw prif noddwyr prosiectau’n cael eu hysbysu’n llawn am hynt a helynt eu ceisiadau nac ychwaith yn cael y cyfle i gyflwyno eu cais gerbron panel y gronfa’n uniongyrchol. Bu diffyg cyfathrebu ac eglurder hefyd am y broses a’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud. Ar ben hynny, cafodd yr ymgeiswyr anawsterau sylweddol yn sgîl y newidiadau mawr a gyflwynwyd i’r cyfarwyddiadau am gyflwyno ceisiadau cynlluniau busnes hanner ffordd drwy’r cyfnod o baratoi’r rhaglenni presennol.

 

17.     Mae rheoli pecynnau ariannu cymhleth ar gyfer cyflwyno prosiectau cyfalaf, yn enwedig mewn rhaglenni ERDF, wedi bod yn dalcen caled oherwydd natur y gronfa a gymeradwyir yn flynyddol a’r angen i wario dyraniadau o fewn y flwyddyn ariannol dan sylw. Mae’r oedi wrth wneud penderfyniadau am geisiadau i’r gronfa wedi achosi problemau i nifer o noddwyr prosiectau o ran cadw at y trefniadau delfro. Dyma un o sawl rheswm pam mae cynifer o noddwyr prosiectau wedi gorfod ail-bennu faint roedden nhw am ei wario sawl gwaith.

 

18.     Heb os, mae’r toriadau yn y sector cyhoeddus wedi effeithio ar faint o arian cyfatebol sydd ar gael yn ystod y cyfnod rhaglenni presennol. Yn sgîl hynny, fe gefnogom  waith WEFO wrth geisio cael lefelau uwch o ran cyfraddau ar gyfer rhai rhannau o’r rhaglenni  ERDF i alluogi nifer o brosiectau cyfalaf dan arweiniad llywodraeth leol i symud ymlaen.

 

19.     Mae maint y toriadau ledled y sector cyhoeddus yn golygu y bydd hi’n anoddach canfod arian cyfatebol yn y rhaglenni newydd. Felly, bydd angen ystyried pob cyfle i gynorthwyo yn y maes yma. Bydd cronfa benodol o arian cyfatebol yn hanfodol wrth baratoi’r rhaglenni nesaf ond bydd rhaid iddi gyd-fynd â phrosesau’r Cronfeydd Strwythurol a bod yn llawer mwy hyblyg ac agored o gymharu â’r gronfa bresennol. Hefyd, bydd cael gwybod beth fydd ffynonellau arian cyfatebol adrannol Llywodraeth y Cynulliad yn gynnar yn hanfodol wrth baratoi’r rhaglenni newydd.

 

20.     Yn rhaglenni’r dyfodol, bydd angen i ni gydweithio i fanteisio’n llawn ar y pecynnau ariannol sy’n defnyddio arian adrannau Llywodraeth y Cynulliad i ychwanegu at werth arian Ewrop. Mae’r rhain yn cynnwys y Gronfa Gyfalaf Ganolog, arian i ardaloedd adfywio, rhaglen newydd Cymunedau’n Gyntaf, addysg a medrau, yn ogystal ag arian cyrff eraill fel y Loteri Fawr a Chanolfan Byd Gwaith, ac ati. Bydd angen gwybod sut i wneud gwell defnydd o arian sy’n cyfateb i arian Ewrop o’r cychwyn cyntaf fel bod yr arian yma ar gael yn haws i fusnesau a chymunedau yn y dyfodol.

 

21.     Bydd hyn hefyd yn cynnwys trafod yn y dyfodol er mwyn cael lefelau uwch ar gyfer y cyfraddau ymyriadau i ddenu buddsoddiadau, yn enwedig mewn isadeiledd cyfalaf. Bydd angen meddwl yn greadigol hefyd am sut y byddwn yn ariannu prosiectau isadeiledd cyfalaf yn y dyfodol, gan gynnwys cael arian o adnoddau eraill UE fel buddsoddiadau Cyfleuster Isadeiledd Cysylltu Ewrop a galluogi llywodraeth leol i fenthyg cymaint â phosibl ac annog y sector preifat i fuddsoddi rhagor.

 

22.     Bydd angen ystyried y posibilrwydd o baratoi dulliau delifro newydd hefyd, gan gynnwys defnyddio rhagor o grantiau byd-eang, dyraniadau wedi’u clustnodi ac arian dirprwyedig a fyddai’n fwy cynaliadwy ac yn fwy tebygol o gyflawni canlyniadau adfywio hirdymor. Croesawn y cyfleoedd sydd yn y cynigion deddfwriaethol arfaethedig ar gyfer rhaglenni’r dyfodol sy’n cynnig ffordd o alluogi a hyrwyddo dulliau o’r fath. Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, byddwn yn bwrw golwg manwl ar rai o’r dewisiadau yma wrth i ni ddechrau datblygu ein syniadau am natur rhaglenni’r dyfodol yng Nghymru.

 

23.     Byddem yn croesawu’r cyfle i gael trafodaeth gyda WEFO ac adrannau eraill Llywodraeth Cymru cyn bo hir am y mathau o arian cyfatebol sydd ar gael i gyflwyno’r rhaglenni newydd.

 

 

 

Cwestiwn 4: Pa mor effeithiol y bu Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru o ran  monitro a gwerthuso effaith prosiectau?

 

24.         Mae’r gwaith gwerthuso gan WEFO mewn cysylltiad â’r rhaglenni presennol, yn ogystal â’r ffaith bod yn rhaid i bob prosiect gynnal gwerthusiad, wedi bod yn effeithiol ar y cyfan. Fodd bynnag, mae lle i wella o hyd e.e. wrth gofnodi rhai o ganlyniadau mwy anuniongyrchol y buddsoddiadau.

 

25.     Mae mwy o le i wella o ran y gwaith monitro. Rydym yn pryderu’n bennaf am y prinder gwybodaeth monitro ar unrhyw lefel isranbarthol a lleol. Gan nad oes gwybodaeth am gyflawniadau fesul ardal awdurdod lleol, mae gwerthuso effaith yr ymyriadau ar lawr gwlad yn anodd dros ben.

 

26.         Dim ond gwybodaeth ar lefel uchel am ddangosyddion heb unrhyw ddadansoddiad sydd ar gael fesul ardal awdurdod lleol ar hyn o bryd. Mae hyn yn siom ac yn peri rhwystredigaeth gan fod WEFO yn casglu’r data yma wrth dderbyn ceisiadau. Bydd cael gafael ar y data yma’n ddefnyddiol dros ben i awdurdodau lleol ac eraill er mwyn monitro a gwerthuso effaith ymyriadau ar lawr gwlad. Yn bwysicaf oll, byddai hefyd yn tynnu sylw at fylchau posibl mewn gweithgareddau. Heb y data yma, nid oes modd gwybod yn union beth yw effaith rhaglenni cenedlaethol a traws raglenni ar lefelau isranbarthol a lleol.

 

 

Cwestiwn 5: A oes gennych bryderon ynghylch y gallu i gynnal y gweithgareddau a’r gwaith a gyflawnir drwy brosiectau a ariennir yn ystod cylch cyfredol y cronfeydd strwythurol y tu hwnt i 2013?

 

27.         Mae gwerthuso pa brosiectau sydd wedi bod fwyaf llwyddiannus mewn cysylltiad â’r rhaglenni presennol yn hollbwysig i weld beth allai gael ei gynnal yn y rhaglenni newydd ar gyfer 2014-2020.

 

28.         Rydyn ni’n awyddus i ddatblygu a chryfhau rhai o’r enghreifftiau gorau o arferion da o satbwynt modelau delifro mae llywodraeth leol yn ei harwain a’r dulliau cydweithio rhanbarthol eraill, mewn cysylltiad â’r rhaglenni presennol er mwyn pennu dulliau mwy effeithiol o ddelifro prosiectau yn y cyfnod newydd.

 

 

29.         Hoffem hefyd gael gwybod cyn gynted ag y bo modd am y prosiectau yr hoffai adrannau Llywodraeth Cymru eu cyflwyno yn y rhaglenni newydd fel bod partneriaid a chyrff allweddol yn ymwybodol ohonynt ac unrhyw gyfleoedd i’w delifro.

 

30.         Byddai amlygu pa brosiectau a allai gael eu hariannu yng nghyfnod newydd y rhaglenni yn osgoi’r oedi dwy flynedd o hyd a gafwyd ar ddechrau’r rhaglenni presennol. Roedd yr oedi o ganlyniad i ffordd hollol newydd o gyflwyno arian, yr obsesiwn gyda chaffael, dulliau delifro cwbl newydd a’r diffyg cyfarwyddiadau clir a chyson. Er y bydd rhaid caffael rhai dulliau delifro yng nghyfnod newydd y rhaglenni, rhaid cydbwyso hyn â’r gallu i gynnig grantiau byd-eang cystadleuol.

 

31.     Er ein bod o blaid defnyddio dulliau newydd o ddefnyddio arian fel JESSICA a JEREMIE mewn cysylltiad â’r rhaglenni presennol, nid ydym wedi ein hargyhoeddi bod y model cywir ar waith, yn enwedig o safbwynt Cronfa Buddsoddi Adfywio yng Nghymru. Rydym yn awyddus dros ben i wneud yn siŵr bod unrhyw fodel newydd yn cael ei ddylunio’n well i gyd-fynd â gwir amodau’r farchnad yn y rhan fwyaf o Gymru er mwyn iddo fod yn llawer mwy deniadol i fusnesau a chymunedau.

 

 

Cwestiwn 6: Beth yw eich profiad chi o gael gafael ar Gyllid Strwythurol Ewropeaidd?

 

32.     Mae llywodraeth leol yn bartner pwysig o ran delifro Rhaglenni’r Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru. Mae’n gysylltiedig â chyflwyno prosiectau’n uniongyrchol ym mhob rhaglen fel:

-        Prif noddwr: Un awdurdod lleol yn arwain prosiect ar ran nifer o awdurdodau lleol eraill;

-        Cyd-noddwr: Awdurdodau lleol naill ai’n rhan o drefniant noddi gyda’i gilydd

neu gyda sefydliadau eraill yn ogystal;

         -                  Cyflwynydd prosiect o dan gytundeb: Awdurdodau lleol o dan gytundeb i gyflwyno prosiectau y mae Llywodraeth Cymru yn eu harwain;

-           Cyflwynydd prosiect drwy broses gaffael: Gall awdurdodau lleol gyflwyno cais i ddelifro gweithgareddau’n rhan o brosiectau strategol a chyffredinol Llywodraeth Cymru a chyrff eraill;

       -           Noddwr y prosiect: Un awdurdod lleol yn datblygu prosiect i’w gyflwyno yn ei ardal.

 

33.     Llywodraeth leol yw un o bartneriaid pwysicaf y Timau Ewropeaidd Arbenigol sy’n rhoi cymorth, cyngor ac arweiniad i noddwyr prosiectau ac ymgeiswyr arfaethedig ledled Cymru. Mae’r swyddogion yma, sy’n gweithio yn yr awdurdodau lleol, yn aelodau o’r tri thîm rhanbarthol gyda swyddogion o adrannau Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (BETS) ac Addysg a Medrau Llywodraeth Cymru yn ogystal â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

 

34.   Mae swyddogion materion Ewrop yr awdurdodau lleol wedi datblygu arbenigedd mewn cynorthwyo, arwain a hwyluso noddwyr prosiectau ac ymgeiswyr arfaethedig i gael gafael ar arian strwythurol Ewrop dros sawl cyfnod. Mae angen cydnabod ac ystyried hyn yn llawn wrth baratoi gweithdrefnau wrth baratoi’r rhaglenni newydd.

 

35.   Mae’r WLGA yn cynrychioli awdurdodau lleol ar y pwyllgorau monitro ac mae’n dadlau eu hachos ym mhob rhaglen. Mae hefyd yn ceisio gofalu bod llywodraeth leol yn rhan ganolog o bob rhaglen a bod awdurdodau lleol yn manteisio’n llawn ar y cyfleoedd y mae’r rhaglenni’n eu cynnig. Mae’n cynorthwyo ac yn cynghori awdurdodau am sut i gymryd rhan ac yn cynrychioli eu buddiannau ar sawl cylch gan gynnwys WEFO, y timau arbenigol a chylchoedd sy’n ymwneud â phrosiectau penodol.

 

36.     Biwrocrataidd, beichus, cyfnewidiol a rhwystredig – dyma ddisgrifiad yr awdurdodau lleol o’r broses o gyflwyno cais am Arian Strwythurol Ewropeaidd o fewn y cyfnod rhaglenni presennol.

 

37.     Mae diffyg cyfarwyddiadau clir a chyson wedi bod yn faen tramgwydd amlwg mewn cysylltiad â’r rhaglenni presennol ac mae ymagwedd a chyngor WEFO wedi bod yn anghyson yn sgîl hynny. Mae hefyd wedi effeithio ar allu’r Timau Ewropeaidd Arbenigol i roi cyngor clir i noddwyr y prosiectau. Rydym yn croesawu ymdrechion WEFO i fynd i’r afael â hyn yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf wrth ddiweddaru ac egluro sawl dogfen cyfarwyddo o bwys, gan gynnwys ei chyfarwyddyd am gaffael. Bydd yn rhaid rhoi cyfarwyddiadau cynhwysfawr a chlir yn ei lle cyn gynted â phosibl wrth baratoi rhaglenni’r dyfodol.

 

38.     Mae rhai o’r trefniadau ar gyfer cyflwyno prosiectau wedi bod yn rhy gymhleth, yn enwedig y prosiectau eang fel y rhai a gafodd eu cymeradwyo o dan thema ‘Amgylchedd ar gyfer Twf’ yn Rhaglen Cydgyfeirio ERDF. Mae’r prosiectau yma, sy’n cael eu harwain yn bennaf gan adrannau Llywodraeth Cymru a chyrff a noddir ganddynt, wedi creu prosesau rhy gymhleth, meini tramgwydd ac anawsterau o ran y rheoliadau sy’n gysylltiedig â nhw a’r wybodaeth ddiddiwedd sydd ei hangen gan bartneriaid delifro sydd wedi’u caffael. Mae llawer o awdurdodau lleol wedi cael ceisiadau eithafol am wybodaeth wrth gaffael gweithgareddau gan y prosiectau yma. Mae gofynion mor eithafol wedi achosi oedi annerbyniol cyn cymeradwyo a chyflwyno prosiectau. Mewn rhai achosion, bu’n rhaid i’r rhai oedd i fod i elwa yn y pen draw aros am dair blynedd cyn cael eu harian. Mae hyn yn annerbyniol a rhaid ei osgoi wrth baratoi rhaglenni’r dyfodol.

 

39.     Mae angen i brosesau paratoi cynlluniau busnes hefyd adlewyrchu maint y prosiectau a’r cynlluniau a’r peryglon sy’n gysylltiedig â nhw. Nid felly y bu ar sawl achlysur mewn cysylltiad â’r rhaglenni presennol ac mae wedi effeithio ar pryd mae prosiectau’n cael eu cyflwyno, cymeradwyo a delifro.

 

40.     Mae’r awdurdodau lleol hefyd wedi profi lefelau amrywiol o arbenigedd gan dimau rheoli’r prosiectau ar gyfer prosiectau eang o’r fath a phrosiectau y mae Llywodraeth Cymru yn eu harwain. Mae hyn wedi arwain at gamddehongli rheolau am bwy sy’n gymwys, gofynion archwilio a chydymffurfio, yn ogystal â chyngor sy’n gamarweiniol neu hyd yn oed yn anghywir. Mewn sawl achos, mae swyddogion profiadol y Timau Arbenigedd a Swyddogion Ewropeaidd yr awdurdodau lleol wedi gorfod cywiro cyngor ac arweiniad anghywir. Mae angen dysgu o’r profiadau yma wrth i ni ddechrau paratoi syniadau ar gyfer rhaglenni’r dyfodol gan roi rhagor o bwyslais ar fedrau rheoli ac adnoddau mwy effeithiol ymhlith prif noddwyr y prosiectau.

 

 

Cwestiwn 7: A yw’r sector preifat yng Nghymru wedi ymgysylltu’n ddigonol â’r  broses o gael gafael ar Gyllid Strwythurol Ewropeaidd?

 

41.   Nid oes gan y rhan fwyaf o gyrff a chwmnïau preifat unrhyw ddiddordeb mewn bod yn brif noddwr ar brosiect oherwydd y biwrocratiaeth sy’n gysylltiedig â’r gwaith. Fodd bynnag, hoffen nhw gael gafael ar y arian a manteisio arno.

 

42.   Gall y sector preifat elwa’n uniongyrchol o sawl prosiect ar hyn o bryd. Mae gan swyddogion y timau arbenigedd a swyddogion eraill yr awdurdodau lleol rôl hollbwysig wrth alluogi a chynorthwyo cwmnïau lleol i gael gafael ar arian drwy brosiectau, gan gynnwys y rhai y mae llywodraeth leol yn eu harwain. Mae’r rhain yn cynnwys prosiectau fel y Gronfa Fuddsoddi Leol, y Gronfa Datblygu Eiddo a chynlluniau Adfywio Canol Trefi. Gyda’r rhain, yr awdurdodau lleol sy’n ysgwyddo’r baich biwrocrataidd a’r peryglon ar eu rhan ac maen nhw’n symleiddio’r prosesau sy’n galluogi cwmnïau preifat i gael gafael ar arian. Mae sawl prosiect arall, dan arweiniad Llywodraeth Cymru a chyrff eraill, sy’n ceisio cynorthwyo busnesau’n uniongyrchol.

 

43.   Mae cyfyngiadau Cymorth Gwladwriaethol Ewrop yn amharu ar allu’r awdurdodau lleol ac eraill i gynorthwyo busnesau’n uniongyrchol, yn enwedig yn ardal Cystadleurwydd y Dwyrain. Fodd bynnag, ar wahân i nifer o brosiectau sy’n cynnig cymorth i fusnesau’n uniongyrchol yn Ardal Cydgyfeirio Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn enwedig, mae prosiectau ar waith ar draws meysydd y rhaglenni sy’n ceisio creu sefyllfa lle gall busnesau ffynu’n well, yn unol â Rhaglen Adfywio Economaidd Llywodraeth Cymru.

 

44.   Bydd angen gwneud rhagor wrth baratoi’r rhaglenni newydd i ddenu rhagor o arian cyfatebol gan y sector preifat, yn enwedig yn rhan o’r pecynnau ariannol fydd eu hangen i ariannu prosiectau isadeiledd cyfalaf o bwys. Bydd hefyd yn bwysig gofalu bod y sector preifat yng Nghymru yn ymwybodol o rai o’r cynlluniau newydd ar lefel Ewrop yng ngyfnod nesaf y rhaglenni, a’u bod yn manteisio arnyn nhw. Mae’r rhain yn ceisio denu buddsoddiadau gan y sector preifat ac maen nhw’n cynnwys cyfleuster arfaethedig Cysylltu Ewrop. Bydd y rhain yn ariannu cynlluniau mawr i ddatblygu isadeiledd ym meysydd cludiant, ynni a band eang. Mae llu o ddulliau cynhyrchu arian ar gael hefyd sy’n ceisio annog y sector preifat i gymryd rhan mewn prosiectau o bwys.

 

 

 

 

 

Cwestiwn 8: Yn 2009, llwyddodd Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i negodi cynnydd yng nghyfraddau ymyrryd y rhaglenni gyda’r Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer dwy raglan cydgyfeiriant Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Gymdeithasol Ewrop. Yn ei adroddiad ym mis Gorffennaf 2010, nododd y Pwyllgor Menter a Dysgu fod Asiantaethau Datblygu Rhanbarthol y De-Orllewin wedi negodi cyfraddau ymyrryd uwch gyda’r Comisiwn Ewropeaidd. A yw Cymru’n gwneud y defnydd mwyaf effiethiol o’r cyfraddau ymyrryd uwch hyn?

 

45.   Fe gefnogom gais WEFO i gynnyddu’r cyfraddau ymyrryd yn 2009 o ystyried y dirwasgiad a croesawom ei bod wedi llwyddo i gael cytundeb gan y Comisiwn yn y trafodaethau yma, yn enwedig yn y rhannau hynny o’r rhaglenni ERDF o ddiddordeb uniongyrchol i awdurdodau lleol, sef y themau adfywio ffisegol ac isadeiledd strategol. Mae hyn wedi galluogi mwy o brosiectau awdurdodau lleol i gael ei cymeradwyo o fewn y rhannau yma o’r rhaglenni.

 

46.   O ystyried maint y toriadau sy’n cael eu gwneud ar draws cyllidebau y sector cyhoeddus, bydd yr angen i negodi cyfraddau ymyrryd uwch yn hollbwysig yn y cyfnod rhaglenni nesaf. Fodd bynnag, bydd yn rhaid bod yn ofalus gan fod cael ymyriadau uwch yn gwneud maint y rhaglenni yn llai. Felly, bydd angen cael y cydbwysedd cywir wrth drafod y rhaglenni newydd ar gyfer Cymru gyda’r Comisiwn Ewropeaidd a rhaid gwneud pob ymdrech i fanteisio ar unrhyw ddulliau a ffynonellau posibl a allai ddarparu arian cyfatebol.

 

 

 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda:

 

Lowri Gwilym – Rheolwr Tîm Ewrop ac Adfywio

lowri.gwilym@wlga.gov.uk

 

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tŷ Llywodraeth Leol

Rhodfa Drake

Caerdydd

CF10 4LG

 

Ffôn:  029 2046 8676